Ysgol Woodlands

Addysg
Ysgol Woodlands
Yn Woodlands ‘rydym yn ceisio sicrhau bod pob disgybl yn derbyn yr addysg orau posibl. Mae gan pob disgybl amserlen unigol er mwyn sicrhau cyn gymaint a phosibl o ddilyniant yn ei haddysg.
Ein gweledigaeth yw i bob disgybl lwyddo trwy benderfyniad, gwydnwch a mwynhad. Bydd pob disgybl yn astudio, Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth, Dyniaethau,
(Hanes/Daearyddiaeth/Addysg Grefyddol), Addysg Gorfforol, Technoleg Gwybodaeth a Celf. Mae opsiynau o Gymraeg ac Addysg Awyr Agored ar gyfer pob disgybl.
Ceir datblygiad bersonol ac emosiynol a chymdeithasol ar draws y cwricwlwm trwy waith gyda staff gofal a therapi. Mae datblygiad agweddau personol, emosiynol ac ymddygiadol yn bwysig os yw disgyblion am ragori yn ei haddysg ac yn ei cyrhaeddiad.
Cynigir y dysgu gan athrawon cymwysiedig medrus iawn sy’n gyfredol yn eu medr a chyflwyno. Mae cyfle i bob disgybl sefyll arholiad yn y pynciau ȃ astudir. Caiff darpariaeth Ȏl 16 ei deilwra ar gyfer anghenion a diddordebau unigol yn yr un ffordd ac addysg gorfodol.
Cliciwch yma os gwelwch yn dda ar gyfer ein Adroddiad Arolwg Estyn ddiweddaraf.
“Mae Celf & Dylunio yn cynnig amrediad eang o weithgareddau creadigol, cyffrous ac ysgogol er mwyn archwilio ei diddordebau mewn ffyrdd bersonol berthnasol a datblygiadol ei natur” Manylion Pwnc AQA. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth… Art
Saesneg
Yn Woodlands rydym yn cynnig 4 gwahanol lwybr er mwyn ennill cymhwyster mewn Saesneg. Rhain yw: Sgiliau Swyddogaethol Saesneg ( Lefel 1 neu 2), Lefel Mynediad Iaith Saesneg, TGAU Iaith Saesneg a TGAU Llenyddiaeth Saesneg. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…Eng/Welsh
Daearyddiaeth
Dylunir Daerayddiaeth CA3 yn Woodlands er mwyn helpu disgyblion i wneud synwyr o’r byd y maent yn byw ynddo. Trwy astudio Daearyddiath Safon Uwch galluogir disgyblion i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o brosesau dynol a corfforol trwy astudio llefydd ac amgylchedd gyda gwerthfawrogiad natur ddeinamig daearyddiaeth. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…
Hanes
Mae Woodlands yn cynnig Hanes Lefel Mynediad, CA3 a TGAU. Ar gyfer disgyblion TGAU ceir cwrs dwy flynedd gan ddilyn cwrs newydd Edexcel 9-1. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…
Mathemateg
Darparir Mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 3, CA4, Lefel Mynediad a TGAU. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…Maths
Addysg Awyr Agored
Mae Woodlands yn darparu Addysg Awyr Agored ar gyfer pob disgybl. Mae’n cynnwys sgiliau gwaith coed, cynnal y cwt/gweithdy, crefft llwyni a coedwigaeth. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…Outdoor
Addysg Gorfforol
Yn Woodlands darparir Addysg Gorfforol er mwyn i ddisgyblion ddeall a derbyn gwybodaeth ar sut i fyw bywyd iach a gweithredol gan eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus am ei datblygiad corfforol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…Physic Ed
Paratoi ar Gyfer Bywyd Gwaith
Dyluniwyd y cwrs er mwyn cynnig sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer helpu ei darparu am fywyd gwaith, nawr ac yn y dyfodol, fel unigolion ac aelodion cymdeithas hyderus. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…Prep for life
Addysg Grefyddol
Dyluniwyd y cwrs er mwyn helpu disgyblion i ddatblygu ei dealltwriaeth o gredoau crefyddol, dysgiadau a ffynonellau doethineb tra yn archwilio a datblygu ei credoau eu hunain ynghyd ȃ’i pwrpas ysbrydol a moesol mewn bywyd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…Relig
Gwyddoniaeth
Darparir Gwyddoniaeth ar gyfer Lefel Mynediad a TGAU mewn Bywydeg a Ffiseg. Mae Woodlands yn cynnig Bywydeg Safon Uwch. Addysg. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth…Science
