Canlyniadau
Canlyniadau
Mark
Profodd Mark drauma arwyddocaol yn ystod ei flynyddoedd cyntaf trwy esgelusdod, trais corfforol a rhywiol ochr yn ochr a cholled a gwrthod canfyddedig. Golygodd hyn bod y profiad yn ei gwneud hi’n anodd i greu atodiadau diogel. Cafodd Mark, hefyd, drafferth i reoli ei emosiynau gan arddangos ymddygiad aflonyddgar yn cynnwys bod yn ymosodol ynghyd ȃc ymddygiad niweidiol rhywiol fel canlyniad. Canfyddodd Mark hi’n anodd i ddatblygu a chadw cyfeillgarwch cyfoedion, trwy ddiffyg rhyngweithio cymdeithasol a’r sgiliau cyfathrebu angenrheidiol.
Cyfeirwyd Mark i Woodlands fel canlyniad o:
-
Profi trais eang
-
Lefelau uchel o fregusrwydd
-
Anawsterau wrth reoleiddio emosiynau
-
Ymddygiad ymosodol
-
Arddangos ymddygiad niwediol rhywiol
-
Gwallau sgiliau cymdeithasol
-
Diffyg presenoldeb ysgol/gwaharddiadau
-
Hunan-barch isel ynghyd ȃ diffyg synnwyr o hunaniaeth
Llwyddiant Mark yn Woodlands:
-
Aeth Mark o angen lefel oruchwyliaeth “canolig” ar asesiad AIM2* yn y dechrau, i angen lefel “isel” wrth ymadael. Nododd hyn bod cynnydd yng nghryfderau a hunan-hyder Mark, newid mewn agwedd a chynnydd yn ei allu i reoli sefyllfaoedd anodd yn bositif. Ymddangosodd hyn yn y diwedd fel gostyngiad sylweddol yn ei lefelau risg.
-
Nid yw Mark wedi ail-adrodd unrhyw ymddygiad trosedd.
-
Dengys asesiadau secometrig ar y dechrau bod Mark yn arddangos lefelau sylweddol uchel o ddicter ac iselder meddwl, pryder a symtomau PTSD yn cynnwys pryderon rhywiol uchel. Gwelwyd Mark yn gor-adrodd ei symtomau ar y dechrau, ac yn amharod i fod yn onest parthed gwir syniadau a theimladau. Pan orffennodd Mark ei asesiadau seicometrig olaf cyn gadael Woodlands, fe welwyd bod Mark yn fwy gonest yn y symtomau roedd yn ei brofi, gyda’r canlyniadau yn awgrymu bod pob un pryder lefel uchel, yn cynnwys pryderon rhywiol, wedi lleihau’n sylweddol i gyrraedd yr ‘ystod normadol’.
-
Cyrhaeddodd Mark bresenoldeb 100% yn ei therapi ac addysg
-
Cyflawnodd saith TGAU, yn cynnwys C ym Mathemateg ac Addysg Gorfforol.
-
Gweithiodd Mark ar dddatblygu ei sgiliau perthnasoedd cymdeithasol ac yn ddiweddarach fe greodd a chadw nifer o gyfeillgarwch priodol.
-
Symudodd ymlaen i gyfleuster byw’n annibynol o fewn Woodlands gan ddarparu ar symud ymlaen trwy weithio ar raglan sgiliau bywyd. Fe gynnwys hyn gweld Mark yn cymryd cyfrifoldeb am ei anghenion iechyd, coginio, cyllidebu a hunan-ofal cyffredinol. Yn dilyn o hyn, gwelwyd bod Mark yn barod i symud at fyw yn annibynol llawn amser.
-
Ymgymerwyd ȃ therapi teulu i wella’r berthynas, cynyddu ffactorau diogelu a darparu Mark ar gyfer symyd yn ôl i’w gartref enedigol
-
Cynigwyd cefnogaeth allgymorth ôl-leoliad i Mark i’w helpu gyda’r trosglwyddo o Woodlands yn ôl i’r gymuned
-
Cefnogwyd Mark yn rheolaidd i gadw a creu cysylltiadau gyda’i ardal cartref ac mae ‘nawr yn astudio Technoleg Gwybodaeth llawn-amser yn y coleg.