
ASDAN
Yn Woodlands rydym yn cynnig cyfle i'n myfyrwyr ddilyn cyrsiau a ddyluniwyd gan ASDAN sy'n darparu rhaglenni a chymwysterau cwricwlwm i helpu pobl ifanc i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ar gyfer dysgu, gwaith a bywyd. Mae'r rhaglenni a'r cymwysterau'n cael eu cydnabod yn eang am ddarparu cwricwlwm atyniadol sy'n grymuso myfyrwyr trwy ddysgu a dewis wedi'i bersonoli. Mae eu cyrsiau'n cymell ac yn gwella hyder, hunan-barch a gwytnwch myfyrwyr. Yn ogystal, maent yn datblygu sgiliau craidd mewn gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, ymchwil a hunanreoli.
Gallwn gynnig y cyrsiau byr canlynol mewn pynciau craidd:
Saesneg
Mathemateg
Gwyddoniaeth
Daearyddiaeth
Ieithoedd
Hanes
Hefyd, gallwn gynnig cyrsiau byr mewn chwaraeon, dysgu cysylltiedig â gwaith, a datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae llawer o'n myfyrwyr wedi dilyn y Cynllun Datblygiad Personol sy'n cwmpasu ystod o fodiwlau o gyfathrebu i iechyd a lles; i ddysgu cysylltiedig â gwaith a'r celfyddydau mynegiannol, ac maent wedi cyflawni tystysgrifau ar gyfer Efydd, Arian ac Aur trwy gwblhau

"Rwy'n mwynhau ASDAN oherwydd ei fod yn hwyl. Rwy'n gallu cwblhau heriau diddorol ac mae'n fy nghefnogi i ddatblygu fy sgiliau ar gyfer fy mywyd fel oedolyn pan fyddaf yn symud ymlaen o Woodlands."
gwaith yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol yn ystod sesiynau Sgiliau Bywyd. Mae'r cwrs hwn wedi annog y tri maes yn Woodlands i ddod at ei gilydd a chydweithio i sicrhau bod pob unigolyn yn ennill llawer iawn o sgiliau ym mhob maes i'w paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn a'u dyfodol.
Ar gyfer y dysgwyr mwy galluog ac mae ASDAN ôl-16 yn cynnig Gwobr Effeithiolrwydd Personol (AoPE) a'r Dystysgrif effeithiolrwydd personol (CoPE).